Rwyf wedi fy siomi wrth glywed bod adolygiad barnwrol wedi dyfarnu yn erbyn ymgyrch WASPI heddiw. Mae’r penderfyniad yn ergyd enfawr i’r miliynau o fenywod a anwyd yn yr 1950au sydd wedi dioddef o ganlyniad i’r penderfyniad creulon i godi oedran hawlio pensiwn y wlad i fenywod heb rybudd digonol.
Roedd yn dda cael cwrdd ag ymgyrchwyr WASPI yng nghynhadledd y Blaid Lafur er mwyn trafod yr angen brys i Lywodraeth y DU i gynnig cefnogaeth ariannol well i’r rheiny sydd wedi’u heffeithio.
Ni fyddwn yn ildio yn yr ymgyrch hwn at gyfiawnder.