Home > Uncategorized > Pwyso ar y Llywodraeth i gefnogi’n diwydiant dur

Ynghyd â ASau eraill sy’n cynrychioli etholaethau dur, cwrddais â’r Gweinidog dros y diwydiant dur, Nadhim Zahawi AS, er mwyn pwyso ar y Llywodraeth unwaith yn eto i weithredu’n bendant i daclo costau ynni uchel, i sicrhau cytundeb i’r diwydiant dur ac i sefydlu strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr er mwyn sicrhau dyfodol ein diwydiant dur ac i sicrhau bod gan gwmnïau gweithgynhyrchu’r hyder i barhau i fuddsoddi yn y DU.