Home > Uncategorized > Cyn-filwyr Llanelli yn cymryd rhan yn seremoni cofio 75 mlynedd rhyddhau s’Hertogenbosch

Roedd Cymdeithas Gyn-filwyr Llanelli yn ffynhonnell balchder i Lanelli cyfan yr wythnos hon wrth iddyn gorymdeithio ar bedwar achlysur o dan arweiniad galluog y Rhaglaw Gyrnol David Mathias er mwyn cofio 75 mlynedd ers rhyddhau s’Hertogenbosch, dinas yn yr Iseldiroedd, o rym y Natsïaid ar 27 Hydref 1944 gyda’r 53ain Adran Gymreig yn rhan ganolog o’r ymgyrch yma. Pleser oedd cael cwmni Côr Meibion Aberhonddu, Band Catrodol y Cymry Brenhinol a’r gantores soprano Llio Evans.

Roedd yn fraint go iawn fod yng nghwmni Cyn-filwyr Llanelli ar gyfer y seremoni arbennig yma er mwyn nodi 75 mlynedd wedi’r ymgyrch. Hyd heddiw, mae trigolion s’Hetrogenbosch yn trysori eu rhyddid ac maent yn parhau i fynegi eu diolchgarwch i’r Cymry am ein rhan yn yr ymgyrch rhyddhau.

Hoffwn ddiolch i’r Rhaglaw Gyrnol David Mathias am ei holl waith yn cydlynu’r digwyddiadau cerddorol â chynrychiolwyr yr Iseldiroedd, am gynnwys Cyn-filwyr Llanelli ac am fy ngwahodd i’r ddiwrnod.