Home > Uncategorized > Cludo coeden Extinction Rebellion i Barc Howard

Fel rhan o brotestiadau Extinction Rebellion ar hyd a lled San Steffan, sefydlodd yr ymgyrchwyr coedwig dros dro y tu allan i’r Senedd er mwyn tynnu sylw at yr angen am ragor o goed i amsugno allyriadau carbon.

Roedd yn bleser cael cwrdd â’r protestwyr wythnos ddiwethaf er mwyn casglu coeden dderwen… ond un o’r biliynau y bydd eu hangen er mwyn taclo’r newid yn yr hinsawdd. Cludais y goeden i Lanelli ac rwy’n falch o gyhoeddi bod y Cyngor Sir wedi cytuno ei phlannu ym Mharc Howard.

Yn ôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, bydd angen plannu 2.7biliwn o goed ychwanegol yn y DU er mwyn iddi fod yn wlad sy’n niwtral o ran allyriadau carbon. Dyma rif sydd llawer yn uwch na tharged y Llywodraeth dros y blynyddoedd nesaf… ond 11miliwn. Byddwn yn cadw i bwyso ar y Torïaid i blannu rhagor o goed a byddaf yn cefnogi ymdrechion gan y Sefydliad Menywod lleol a grwpiau cymunedol eraill megis y gr?p yn Llanerch i blannu rhagor o goed yn ein hardal.

Roedd araith y frenhines yn gyfle i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond collwyd y cyfle hwnnw. Yr unig beth a godwyd yn yr araith oedd Deddf Amgylcheddol gwan yn sôn am rai camau i daclo llygredd aer a sbwriel. Ni fydd hwn yn ddigon… yn enwedig wedi i’r Torïaid atal datblygiadau ynni gwynt ar dir yn Lloegr a thynnu eu cefnogaeth am brosiectau ynni adnewyddadwy allweddol newydd megis Morlyn Llanw Abertawe am naw mlynedd bellach.

Mae’r blaid Lafur yn cydnabod bod angen ymroddiad go iawn gan y llywodraeth i fuddsoddi ym maes cynhyrchu ynni yn hytrach na dibynnu ar ddatblygiadau pytiog gan sector preifat rhanedig. Dyma pam y mae’r blaid Lafur yn ymroi’n llawn i gynyddu cynhyrchiad ynni trwy felinau gwynt oddi ar y tir pum gwaith drosodd trwy godi 37 o ffermydd gwynt newydd a fydd yn cynhyrchu digon o ynni i gyflenwi 57 miliwn o dai. Hefyd, bydd hyn yn codi nifer y swyddi undebol yng nghymunedau arfordirol y DU. Dyma’r fath o fuddsoddi y bydd yn ein galluogi ni i leihau allyriadau, cynyddu ein cyflenwad o ynni a mynd i’r afael â’r prisiau ynni annheg sy’n niweidio ein diwydiant dur.