Home > Uncategorized > Angen sicrhau chwarae teg i gyn-lowyr sy’n hawlio pensiwn

Mae cyn-lowyr yn haeddu bargen pensiwn llawer tecach. Mae’n warthus bod Llywodraeth y DU yn gwneud elw sylweddol o Gynllun Pensiwn Glowyr (MPS) wrth i’r rheiny sy’n ei hawlio gweld hi’n anodd tynnu dwy llinyn ynghyd.

Cwrddais i ac ASau eraill o gyn-ardaloedd glo cynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol Glowyr yr wythnos ddiwethaf er mwyn trafod yr angen brys i adolygu’r MPS ac i sicrhau bod gan gyn glowyr hawl teg at ganran o’r elw ychwanegol yma.