Home > Uncategorized > #ShareTheOrange – Diwrnod Codi Amwybyddiaeth o Glefyd Alzhimer

Dydy glefyddau megis clefyd Alzheimer ddim yn rhan annatod o heneiddio. Maent yn glefydau corfforol sy’n gwneud niwed i’r ymennydd a gall ymchwilio i’r clefydau hyn gwneud gwahaniaeth mawr.

Rwy’n falch bod Alzheimer’s Research UK yn tynnu sylw at hyn trwy ymgyrch #ShareTheOrange a lansiwyd i nodi Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth o Glefyd Alzhimer ar draws y byd ar Fedi 21. Rwy’n annog pawb i wylio’r fideo grymus isod sy’n taclo rhai o’r camsyniadau mwyaf sydd ynghylch dementia.

Ymunais â’r elusen yn Senedd San Steffan heddiw er mwyn dangos fy mod i’n cefnogi’r ymgyrch a’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud er mwyn dod i ddeall dementia.

Rydym yn ffodus bod cymaint o grwpiau yma yn etholaeth Llanelli sy’n codi ymwybyddiaeth o ddementia ac yn cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio ganddo. Mae grwpiau dementia lleol arbennig ym Mhorth Tywyn a Chydweli sy’n anelu at sicrhau bod eu trefi yn hygyrch i’r rheiny sydd â dementia. Bues i’n ddigon ffodus i ymweld â gr?p T? Golau y llynedd sydd hefyd yn cynnig cymorth a gweithgareddau i’r rheiny sy’n byw â chyflyrau megis clefyd Alzheimer yn Llanelli a Chydweli.