Home > Uncategorized > Prosiect Lleisiau Llanelli yn Theatr y Ffwrnes

Hyfryd oedd gweld lluniau o gelf traeth a graffiti lliwgar fel rhan o arddangosfa Lleisiau Llanelli yn Theatr y Ffwrnes. Dyma brosiect sydd wedi llwyddo dod â’r hen a’r ifanc at ei gilydd, gan gynnwys y rheiny sy’n dioddef o ddementia. Rwyf newydd wylio’r ffilm a gynhyrchwyd gan Ryan Davies sy’n dangos yr hwyl a sbri a gafwyd gan bawb oedd yn rhan o’r prosiect.