Home > Uncategorized > EyeFest Porth Tywyn

Mae’n wych gweld y ffordd y mae masnachwyr lleol wedi ymateb i frwdfrydedd yr optometrydd lleol, Loveleen Bowes, trwy ymuno â EyeFest er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd edrych ar ôl eich llygaid.

Roedd nifer o fasnachwyr Porth Tywyn yn bresennol ac yn cydweithio yn cynnig bwyd ac yn lledaenu taflenni yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd edrych ar ôl eich llygaid fel rhan o ymgyrch Wythnos Iechyd Llygaid Cenedlaethol. Roedd y gw?l yn ceisio tynnu sylw at yr effaith y mae deiet, ffordd o fyw a gwirio’r llygaid yn rheolaidd yn cael ar iechyd eich llygaid.

Rydyn ni gyd yn sôn am sicrhau ein bod ni’n bwyta’n iach, ond, a wyddoch chi fod sbigoglys a chêl o fudd i’ch llygaid? Rydw i bellach yn ymwybodol wedi i fwydlen ddyddiol caffi’r Lolfa tynnu sylw at hwn. Hefyd, roedd y profiad o wisgo sbectol cardfwrdd arbennig yr RNIB sy’n efelychu byw â nam ar y llygaid wedi pwysleisio difrifoldeb cyflyrau penodol. Yn wir, roedd digon i sbarduno trafodaeth am iechyd y llygaid.

Roedd tafarnwyr a thafarndai lleol hefyd yn awyddus i gymryd rhan. Dyma The Neptune, The Hope and Anchor a The Portobello yn cynnig posau, siartiau prawf a sbectol efelychu cyflyrau llygaid megis glawcoma a dirywiad macwlaidd. Fe wnaeth Co-Op cynnal cystadleuaeth bwydydd iach gan gynnig gwobrau i’r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan. Roedd hefyd cyfle i ennill gwobr gan siop Harbour View Gifts trwy ddyfalu nifer y llygaid gwgli mewn jar!

Roedd taflenni hefyd ar gael yn siop Cadno a siopau trin gwallt Kelvin’s, Squires a Reflections a dyma’r olchfa yn cynnig cornel gwybodaeth arbennig. Roedd The Ticket Hut yn cynnig gwybodaeth ar sut i hawlio tocynnau trên am bris gostyngol os oes gennych nam ar y golwg, siop Escape to Vape y cynnig gwybodaeth ar yr effaith y mae ysmygu yn ei gael ar y llygaid a’r modurdai lleol yn gwirio bod gallu trigolion i weld y tu fewn i ffiniau’r gyfraith at ddibenion gyrru.