Home > Uncategorized > Codi cosbau llymach ar y rheiny sy’n cam-drin anifeiliaid

Mae cam-drin anifeiliaid yn farbaraidd. Yn fy marn i, dylai’r rheiny sy’n cam-drin anifeiliaid wynebu cosbau llym iawn.

Ar hyn o bryd, y ddedfryd fwyaf am gam-drin anifeiliaid yw chwe mis yn unig yn y carchar. Yn amlwg, dydy hyn ddim yn ddigon gan ystyried difrifoldeb y troseddau hyn. Dyma pam yr wyf i o blaid mesur y bydd yn codi’r ddedfryd uchaf i bum mlynedd yn y carchar ac yn cael gwared ar y terfyn ar lefel y ddirwy a ellir ei godi.

Rydw i ac ASau eraill y blaid Lafur wedi bod yn ymgyrchu dros y newid hwn am sbel. Synnwyr cyffredin y byddai cyflwyno’r newidiadau hyn. Ond, yn anffodus, ychydig o flynyddoedd yn ôl, rhwystrodd y Llywodraeth Geidwadol  senedd San Steffan rhag cyflwyno newid o’r fath. Er hynny, o’r diwedd, maent wedi cytuno i’r newidiadau wedi pwysau gan y Blaid Lafur, ymgyrchwyr dros hawliau i anifeiliaid a’r cyhoedd.

Mae’n bwysig iawn i argyhoeddi’n glir – mae’n rhaid stopio camdriniaeth anifeiliaid a bydd y rheiny sy’n cam-drin anifeiliaid yn derbyn cosb lem. Rwy’n falch iawn o gefnogi’r mesur hwn felly.

Byddaf yn dal ati i ymgyrchu dros sicrhau’r lefelau uchaf posib o safonau lles i anifeiliaid. Ynghyd â chyflwyno’r cosbau llymach hyn, mae’n rhaid i ni hefyd pasio deddf i gydnabod ymdeimladoldeb anifeiliaid ac i fynd ati i stopio camdriniaeth cyn iddo gychwyn

Mae cynllun gweithredu’r Blaid Lafur yn cynnwys atal mewnforio nwyddau creulon megis Foie Gras a throffïau hela. Byddwn hefyd yn gwneud hi’n anghyfreithlon i fagu adar hela gan ddefnyddio technegau ffarmio dwys ac i allforio anifeiliaid i’w gor-fwydo neu i’w lladd. Ond, cyn i ni allu gweithredu, bydd angen sicrhau Llywodraeth Llafur yn senedd y DU.