Home > Uncategorized > Prosiect Sied Nwyddau Llanelli yn llwyddo denu arian grant

Rwy’n falch o glywed bod y Loteri Genedlaethol wedi dyrannu grant o £9,000 i Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Llanelli er mwyn cynnal prosiect treftadaeth wedi’i anelu at yr ieuenctid.

Y bwriad yw denu disgyblion lleol i ddysgu am hanes diwydiannol a morwrol yr ardal a phwysigrwydd y rheilffyrdd yng nghyd-destun y diwydiannau hyn. Bellach bydd digon o arian i’r ymddiriedolaeth cael gweithio gydag athrawon a disgyblion lleol ac i dalu i greu deunydd addysgu atyniadol gan gynnwys gwefan.

Dyma brosiect llawn cyffro sy’n si?r o godi ymwybyddiaeth o’n hanes lleol.