Home > Uncategorized > Penderfyniad Boris Johnson i gau Senedd San Steffan am gyfnod o bum wythnos: Fy marn i.

Mae’r penderfyniad hwn yn benderfyniad cywilyddus sy’n ceisio atal llais y bobl rhag cael ei glywed yn ystod cyfnod pwysig iawn i’n gwlad.

Yn ystod ymgyrch y refferendwm, dywedodd Boris Johnson yr oedd am gryfhau llais y Senedd ond bellach mae wedi cau’r senedd er mwyn sicrhau nad oes modd iddo rwystro’i gynlluniau i adael heb gytundeb.

Mae’n gwbl amlwg. Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o adael yr UE heb gytundeb. Byddai gadael heb gytundeb yn drychineb i etholaeth Llanelli. Rwy’n gwneud pob dim yn fy ngallu i sicrhau na fyddwn yn gadael heb gytundeb.

https://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-49493632?fbclid=IwAR1M-MzK_HFVQObrsA6KQUQdrN-g9ern0vV9SDdFOnIdcP0jHfpQkgBfvtc