Home > Uncategorized > Pwyso ar leoliadau lleol i ystyried gosod toiled ‘Changing Places’

Rydw i wedi bod yn cydweithio ag ymgyrchwyr lleol er mwyn ceisio sicrhau fod toiled anabl llawn hygyrch (toiled â chyfleusterau codi) yn cael ei osod yn nhref Llanelli.

Byddai Archfarchnad Asda ar Stryd Murray yn lleoliad delfrydol ar gyfer y toiled gan fod digon o le i barcio ac mae’r orsaf bysiau yn agos iawn.

Rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr ASDA er mwyn gofyn iddo ystyried gosod un o’r toiledau hyn yn archfarchnad ei gwmni yn Llanelli er mwyn helpu teuluoedd sydd angen y cyfleuster hwn yn yr ardal. Rydym hefyd wrthi’n gofyn i leoliadau eraill megis Theatr Ffwrnes gosod toiled o’r fath.