Home > Uncategorized > Mae’n bryd ailystyried y penderfyniad i osod goleuadau traffig ar hyd Heol Capel Ifan

Roedd barn y trigolion lleol a fynychodd y cyfarfod cyhoeddus y trefnais i drafod geolaudau traffig Heol Capel Ifan yn glir. Mae’r mwyafrif helaeth o’r farn y dylwn ni ailystyried gosod goleuadau traffig ar Heol Capel Ifan cyn iddo droi’n heol sydd lawn tagfeydd megis Heol Sandy.

Gwallgofrwydd llwyr byddai bwrw ati i’w gosod heb docio’r cynlluniau rhywfaint. Un syniad synhwyrol byddai troi’r goleuadau yn rhai a reolir gan drigolion er mwyn croesi’r heol. Byddai hyn yn osgoi tagfeydd rheolaidd y tu allan i ddrysau blaen trigolion lleol gan na fyddai’r goleuadau yn troi’n goch yn gyson gan achosi tagfeydd a phoendod i fodurwyr.