Home > Uncategorized > Mae angen sicrhau chwarae teg i siopau canol dref.

Rydw i a chynrychiolwyr undeb perchnogion siopau, Usdaw, wedi bod am dro o amgylch Canol Dref Llanelli yn ddiweddar yn siarad â pherchnogion siopau annibynnol lleol fel rhan o’i ymgyrch i ‘Achub ein siopau’. Bwriad yr ymgyrch yw ceisio sicrhau chwarae teg i siopau’r stryd fawr wrth iddyn nhw gystadlu yn erbyn siopau ar-lein.

Rydyn ni gyd yn ymwybodol o’r heriau enfawr sy’n wynebu canol trefi ym mhobman ac mae’n amlwg nad oes dull rhwydd o leddfu’r heriau hyn. Rwy’n croesawu strategaeth ddiweddar Usdaw i ‘Achub ein Siopau’ ac rwy’n annog pawb i gydweithio er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddiannus.

Ymwelais â nifer o siopau annibynnol lleol gyda chynrychiolwr Usdaw, Peter Evans, er mwyn trafod y problemau maent yn eu hwynebu. I fawr bryder, er bod 27,000 o bobl wedi ymweld â Llanelli dydd Sadwrn olaf mis Gorffennaf i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog a pharti thema’r 80au yng nghanol y dref, dydy perchnogion siopau ddim yn credu bod y dathliadau wedi bod o fudd i’w gwerthiannau.

Rydyn ni’n gweld bod yr arwerthwyr mawr ar-lein yn gwneud enillion enfawr wrth i siopau bychain lleol gweld hi’n anodd talu’r biliau. Mae’n rhaid i ni ymchwilio i ddulliau o sicrhau bod yr arwerthwyr ar-lein hyn yn talu treth ddigonol yn y DU ynghyd â dulliau i gefnogi’r busnesau yng nghanolau ein trefi ni ar frys.