Home > Uncategorized > Mae angen cymryd camau gweithredu dewr er mwyn taclo newid yn yr hinsawdd – Alan Whitehead AS

Fe ymunodd Alan Whitehead AS, llefarydd Ynni’r Blaid Lafur, â ni yng Nghydweli heddiw er mwyn trafod y camau dewr sydd angen eu cymryd er mwyn lleihau allyriadau carbon deuocsid a thaclo’r newid yn yr hinsawdd.

Mae Alan wedi gwneud gwaith manwl iawn yn nodi sut y gallwn ni daclo’r newid yn yr hinsawdd, beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn ei daclo ac i ba raddau y bydd angen ei wneud er mwyn sicrhau’r trawsnewidiad sydd ei angen. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gymryd camau dewr ym meysydd cynhyrchu ynni, inswleiddio a thwymo tai, trafnidiaeth a defnydd tir.

Serch hynny, er mwyn sicrhau’r newid hwn, bydd angen sicrhau Llywodraeth Llafur yn Senedd San Steffan, llywodraeth y byddai’n sicrhau fod argyfwng yr hinsawdd yn rhan allweddol o bolisi a llywodraeth y byddai’n fodlon ymyrryd a defnyddio grymoedd y llywodraeth er mwyn sicrhau’r newid sydd ei angen.

Gallwch wylio’r drafodaeth gyfan gan gynnwys y sesiwn holi ac ateb isod.