Home > Uncategorized > Llywodraeth Cymru yn atal datblygu ar gaeau Llanerch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad stop yn erbyn y cynlluniau i adeiladu ysgol newydd i Ysgol Dewi Sant ar gaeau Llanerch. Mae’r cam hwn yn dangos bod pryderon dwys gan nifer helaeth o bobl, nid ‘ambell un o’r trigolion lleol yn unig’.

Dylai’r Cyngor Sir fwrw ati i gynllunio adeiladu’r ysgol ar safle arall megis y safle y bydd Ysgol Heol Goffa yn ei adael cyn hir er sicrhau bod y gwaith adeiladu yn cychwyn yn syth bin yn lle gwastraffu amser yn ceisio cadw at y cynlluniau presennol.