Home > Uncategorized > Ymgynulliad mawr Llanelli

Roedd yn fraint go iawn cael mynychu Ymgynulliad Mawr Llanelli yng nghanol y dref heddiw – digwyddiad sydd wedi’i ysbrydoli gan y diweddar Jo Cox AS a gafodd ei llofruddio tair blynedd yn ôl. Pwrpas y digwyddiad yw dangos fod gennym fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol. Diolch i Mandy Jenkins a’r rheiny a wnaeth ei helpu gan gynnwys y rheiny wnaeth trefnu i mi gael siarad â disgyblion ysgol Coedcae a’n cyfeillion yn Agen, cyfeilldref Llanelli, dros ffrwd fideo.