Home > Uncategorized > Taclo rhagfarn yn erbyn perchnogion c?n tywys

Braf oedd gweld Tracey a Steve Ricketts o Lanelli ymysg cannoedd o berchnogion c?n tywys yn niwrnod lobïo’r elusen Guide Dogs yn Senedd San Steffan ddoe.

Mae’r elusen yn tynnu sylw at faterion pwysig megis y ffaith bod rhai gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn gwrthod cludo pobl â ch?n tywys a bod rhai bwytai a gwestai yn gwrthod mynediad i unigolion sydd â ch?n tywys. Mae rhagfarn o’r fath yn anghyfreithlon ond, yn anffodus, mae nifer o fusnesau a darparwyr gwasanaethau yn gwrthod â dilyn y rheolau – mae’n rhaid i hwn newid.

Rydw i wedi bod yn pwyso ar lywodraeth y DU i gymryd camau pellach er mwyn taclo ymddygiad o’r fath ac i gymryd camau gorfodi pellach. Hefyd, byddaf yn mynd am ‘dro synhwyraidd’ o amgylch Llanelli yng nghwmni’r tîm Guide Dogs lleol er mwyn gwella fy nealltwriaeth o rai o’r anawsterau y mae pobl â nam ar y golwg yn eu hwynebu.