Home > Uncategorized > Mis codi ymwybyddiaeth o sgamiau

Mae Mis Codi Ymwybyddiaeth o Sgamiau yn ymgyrch pwysig iawn a redir gan Gyngor ar Bopeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o sgamiau ac i sicrhau nad yw pobl yn cael eu twyllo gan y troseddau creulon hyn.

Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i fy wncwl marw yn 100 blwydd oed. Diolch byth, roedd ei feddwl dal yn iach pryd hynny, ond dwy flynedd cyn iddo farw cafodd ei demtio gan lythyr oedd yn edrych yn un personol iawn. Dywedodd y llythyr ei fod wedi ennill rhyw wobr ac fe atebodd y llythyr. Canlyniad hwn oedd pentyrrau o lythyron tebyg yn cyrraedd y t? yn rheolaidd. Yn ffodus, fe lwyddom mynd i’r afael â’r sefyllfa cyn i bethau mynd dros ben llestri ond dyma enghraifft o ba mor hawdd yw hi i gael eich temtio a pha mor penstiff y gall sgamwyr bod.

Os nad ydych yn sicr ynghylch dilysrwydd unrhyw beth o gwbl, yna trwoch at ganllaw defnyddiol iawn Cyngor ar Bopeth a chofiwch riportio unrhyw beth amheus:

https://www.citizensadvice.org.uk/…/…/scams-awareness-month/