Home > Uncategorized > Hyfforddiant gwerthfawr gan Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol

Mae tua 700,000 o blant ac oedolion ag awtistiaeth yn byw yn y DU ac felly mae’n hanfodol ein bod ni’n dysgu rhagor am y cyflwr a sut orau i helpu’r rheiny mae’n effeithio arnyn nhw.

Diolch, felly, i’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am drefnu hyfforddiant llawn gwybodaeth i ASau yn ddiweddar. Yn sicr, dyma hyfforddiant sydd wedi cynnig mewnwelediad i’r heriau y mae’r rheiny sy’n byw ag awtistiaeth yn eu hwynebu a sut gorau i gefnogi etholwyr ag awtistiaeth.

Roedd hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i ni barhau i bwyso dros sicrhau’r gefnogaeth gorau i bobl sy’n byw a chyflyrau megis awtistiaeth.