Home > Uncategorized > Gwasanaethau coffa D-Day

Yn y gwasanaethau coffa D-Day a gynhaliwyd yn eglwys gadeiriol Bayeux a mynwent filwrol Bayex heddiw, clywais straeon emosiynol am y rhyfel a adroddwyd gan lygaid dystion o’r oes sef y milwyr, peilotiaid a thrigolion Ffrengig sydd wedi goroesi.

Mae staff Comisiwn Beddi Rhyfel y Gymanwlad wedi gweithio’n galed iawn i osod gwelyau blodau prydferth a pherffaith ar bob un bedd.

Roedd yn fraint enfawr i mi gael clywed gan rhai o’r tua 300 o gyn-filwyr a hwyliodd i Normandy er mwyn bod yn bresennol yn y gwasanaethau.?