Home > Uncategorized > Galw am barcio ar gyfer cerbydau cludo ceffylau ym Mhen-bre

Mae Pen-bre yn fan arbennig i farchogion sydd yn aml yn dod i reidio’u ceffylau ac rwy’n gwybod bod trigolion lleol ac ymwelwyr yn hoff iawn o fanteisio ar y gallu i reidio yma’n ddiogel.

Mae Carmarthenshire Riders wedi codi pryderon ynghylch yr anawsterau maent yn eu hwynebu wrth gludo ceffylau a cheisio parcio’r cerbydau hyn o achos diffyg parcio penodedig addas. Gall fod yn anodd iawn gyrru wagen geffylau i mewn i fan parcio bach ac mae’r rheiny sy’n llwyddo parcio yn aml yn cael eu rhwystro gan geir sy’n parcio o’u blaenau yn ddiweddarach.

Mae’n bryd i ni fynd i’r afael â’r mater hwn, felly, rwy’n cefnogi’r galwad am barcio penodedig addas i gerbydau cludo ceffylau o amgylch Parc Gwledig Penbre. Bydd hyn yn gwneud hi’n llawer mwy haws i farchogion parcio a bydd hefyd yn gwneud hi’n fwy diogel i drigolion gan fydd gwrthdrawiad rhwng y cerbydau hyn a thrigolion yn llai tebygol wrth i’r cerbydau hyn gyrru’n ôl.

Rwy’n ymwybodol bod y Cyngor Sir yn gwrando ar farn y cyhoedd ar y mater hwn felly rwy’n gobeithio y byddan nhw’n ystyried anghenion marchogion a diogelwch y cyhoedd sy’n ymweld â Pharc Gwledig Penbre.