Heddiw, rydym yn dathlu diwrnod Y Lluoedd Arfog. Dyma gyfle pwysig iawn i ni allu cydnabod gwaith y dynion a menywod sy’n rhan o’r Lluoedd Arfog.
Roedd yn fraint treulio’r diwrnod yn ein dathliad yma yn Llanelli lle trefnwyd digwyddiadau di-ri ar gyfer plant ac oedolion gan Gymdeithas Cyn-filwyr Llanelli, y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Cyngor Tref a’r Parch Eldon Phillip.
Yn gynharach yn yr wythnos, teithiais i Hartlepool er mwyn lansio addewidion y Blaid Lafur i’r Lluoedd Arfog. Mae’r addewidion hyn yn cynnwys codi cap cyflog y sector cyhoeddus a rhoi codiad cyflog teg i bersonel. Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd fan aelodau’r lluoedd arfog llety addas heb y peryg o orfod rhentu t? ar y farchnad preifat.
Byddwn hefyd yn sicrhau fod llais gan bersonel a byddwn yn ymgynghori ar gyflwyno corff cynrychiolgar ar gyfer y Lluoedd Arfog. Ar ben hynny, byddwn yn cael gwaraed ar y cytundebau allanol gwael ac anaddas a byddwn yn sicrhau fod plant personel yn mynychu ysgol dda.
Dyma rhan o fy araith yn ystod y drafodaeth ar y Lluoedd Arfog a gafwyd ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog: