Dylai fod y DU yn arwain yr ymgyrch i atal y newid yn yr hinsawdd a dylwn ddefnyddio ein grym diplomyddol er mwyn pwyso am fwy o weithredu ar lefel byd-eang i leihau allyriadau carbon.
Rydw i wedi llofnodi’r llythyr trawsbleidiol isod i’r Prif Weinidog yn pwyso ar y DU i gynnal COP26 – y trafodaethau mwyaf parthed yr hinsawdd ers cyhoeddi Cytundeb Paris. Dylid cynnal y digwyddiad yma yn y DU er mwyn dangos ein bod ni’n barod i fod yn geffyl blaen wrth daclo’r mater unwaith yn eto.