
Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen ‘Llanedi: an intriguing community’ a lansiwyd heddiw. Mae’r llyfr yn ganlyniad i ymdrechion drylwyr Helenor a Howard Jones dros 17 mlynedd.
Diolch i’r darlledwr Garry Owen am ei lansio ac i Gadeirydd y Cyngor, Tina Higgins, a phawb sydd ynghlwm â Chyngor Cymunedol Llanedi am eu cefnogaeth brwd yn arwain at lansiad y llyfr.
Gallwn ddysgu llawer trwy edrych i’r gorffennol ac mae dysgu am hanes llefydd rydych chi’n eu hadnabod yn hynod o ddiddorol.