Home > Uncategorized > Cefnogi ymgyrch USDAW dros bolisiau gwaith sy’n decach i deuluoedd

Roeddwn yn falch o gael fod yng nghwmni cynrychiolwyr Usdaw ar heddiw wrth iddyn nhw ymgyrchu dros sicrhau polisïau gwaith sy’n decach i deuluoedd fel rhan o ddiwrnod o ddigwyddiadau er mwyn tynnu sylw at yr angen i gefnogi rhieni a gofalwyr sy’n gweithio. Maent yn pwyso dros gontractau sy’n cynnig mwy o sicrwydd i weithwyr a mwy o hawliau i rieni a gofalwyr yn y gweithle.?

Mae’r twf enfawr yn nifer y gweithwyr asiantaeth a swyddi dros dro, rhan-amser neu sero-awr yn codi pryder mawr. Mae nifer o weithwyr sy’n edrych am sicrwydd swydd yn cael eu gorfodi i dderbyn telerau gwaith gwael er mwyn gallu sicrhau swydd o gwbl. Mae’r twf diweddar hwn yn rhoi pwysau mawr ar deuluoedd a gofalwyr.

Rwy’n falch bod fy undeb, Usdaw, yn ymgyrchu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn. Byddaf i ac aelodau seneddol eraill y Blaid Lafur yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Du i wella hawliau gweithwyr yn y gweithle ac i weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r contractau hyn sydd wedi eu cynllunio er mwyn cymryd mantais o weithwyr – contractau sydd wedi ffynnu o dan Lywodraeth y Ceidwadwyr.