Home > Uncategorized > Ymweld â phencadlys NATO

Yn ddiweddar, ymwelais â phencadlys NATO ym Mrwsel yng nghwmni Emily Thornberry, un o’m cydweithwyr o’r Cabinet Cysgodol.

Cyfarfûm â swyddogion NATO a thrafodom faterion pwysig megis sut i warchod y DU a’n cynghreiriaid rhag peryglon difrifol megis terfysgaeth ac ymosodiadau seiber. Hefyd, siaradom am y niwed y gall newyddion ffug ei wneud i’n cyfundrefnau democrataidd a’r angen i gryfhau ein gallu i’w wrthsefyll.

Ar ddiwedd ein hymweliad, fe aethom i Fynwent Filwrol San Symphorien lle mae dros 500 o filwyr wedi eu claddu. Ymysg y beddi yno, mae beddi John Parr a Geroge Lawrence Price – y milwr cyntaf a’r milwr olaf a laddwyd yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Dyma le sy’n atgoffa un o gost uchel gwrthdaro.

Mae’r byd yn lle ansicr ac oherwydd hyn mae’n bwysicach byth ein bod ni’n sefyll wrth ochr ein cynghreiriaid ac yn gweithio fel rhan o sefydliadau megis NATO a’r Cenhedloedd Unedig i greu byd sy’n fwy heddychlon ac yn fwy diogel.