Home > Uncategorized > Theatr Ieuenctid Llanelli yn derbyn gwobr treftadaeth

Llongyfarchiadau i Chris Rees, Jill Stevens, Ryan Davies a phawb sy’n gysylltiedig â Theatr Ieuenctid Llanelli am dderbyn gwobr Rhagoriaeth ym maes Treftadaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin am eu prosiect rhagorol yn ymwneud â’r rhyfel byd cyntaf.

Roedd y plant oedd yn rhan o’r prosiect wedi cael budd ohoni ac roedd arddangosfa o waith y plant yn theatr y Ffwrnes yn fythgofiadwy. Gyda phersonél mewn gwisg milwyr a meddygon o’r oes yn sefyll y tu allan i’r arddangosfa… wrth ochr ceffyl byw! Roedd trigolion yn cael eu denu i mewn i’r arddangosfa ac yn treulio amser yn trafod pob math o bethau yn ymwneud â bywyd ar y Ffrynt Gorllewinol gan gynnwys sut oedd pobl y cyfnod yn bwydo’r ceffylau ac yn defnyddio anaestheteg.?

Wedi’r arddangosfa, roedd perfformiad rhagorol o’r ddrama ‘Oh what a lovely war!” gyda phobl yn parhau i’w thrafod am wythnosau wedi’r perfformiad.

6th April, 2019 at 4:47 pm