Home > Uncategorized > Taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Seaside

Mae Seaside yn gymuned glos ac mae’r trigolion lleol yno yn falch iawn o’u hardal. Felly, mae’n gwbl annerbyniol bod ambell i unigolyn yn dinistrio ansawdd bywyd preswylwyr yr ardal trwy ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Ymunwch â mi, Lee Waters AC a chynghorwyr sir Glanymor, John Prosser a Louvain Roberts yng Nghanolfan Selwyn Samuel am 5.30pm ar ddydd Iau 18 Ebrill i leisio’ch pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd cynrychiolwyr yr heddlu, y cyngor a swyddogion cymdeithasau tai yn bresennol.

Rydw i’n annog yr awdurdodau priodol i ddefnyddio’u grymoedd cyfreithiol i gymryd camau cadarn er mwyn dileu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Wedi nodi hyn, rwy’n croesawu’r ffaith bod nifer yr unigolyn sy’n gallu ymweld ag un t? yn benodol wedi’i gyfyngu er mwyn ceisio sicrhau chwarae teg i drigolion yr ardal honno yn benodol.

Er hynny, mae’n rhaid ein bod ni’n sicrhau gweithredu hirdymor er mwyn pwysleisio’r ffaith na fyddwn yn derbyn unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Seaside ac ein bod ni’n benderfynol o sicrhau bod pawb sy’n byw yno yn gallu mwynhau bywyd tawel o ansawdd uchel.