Home > Uncategorized > Pwyso ar Tata Steel i sicrhau dyfodol safle Trostre

Siaradais i a Stephen Kinnock AS â phennaeth adran adnoddau dynol Tata Steel Europe, Tor Farquhar, yr wythnos hon.

Fe nodom yn glir ein bod ni’n cefnogi datganiad yr undebau llafur a’u penderfyniad i beidio â chefnogi’r “datrysiadau” y mae Tata a Thyssenkrupp wedi eu cynnig. Gall y datrysiadau hyn cynnwys gwerthu safle Trostre. Os bydd rhaid gwerthu’r safle, pwysleisiais y pwysigrwydd o fuddsoddi’n hael ynddo a sicrhau bod dyfodol hirdymor dilys iddo. Mae’n bwysig hefyd sicrhau gwarantau parthed sail fasnachol y safle trwy sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trosglwyddo i unrhyw berchennog newydd.