Home > Uncategorized > Ffurfio pwyllgor gweithredu er mwyn adfer parc y Gwendraeth

Cynhaliwyd cyfarfod yng Nghydweli dydd Gwener lle trafododd trigolion lleol syniadau arloesol i adfer y tir y tu ôl i Rodfa’r Gwendraeth a Chlos yr Onnen. Penderfynodd y trigolion ffurfio pwyllgor gweithredu er mwyn cadw pwyso ar y cyngor sir i adfer y tir y tu ôl i Rodfa’r Gwendraeth a Chlos yr Onnen.

Enw’r gr?p newydd yw Gr?p Gweithredu Parc y Gwendraeth ac rydym yn awyddus i gael cymaint o drigolion lleol yn aelodau o’r gr?p ag sy’n bosib. Croesawodd y gr?p y ffaith bod Cyngor Tref Cydweli bellach yn berchen ar y tir ac maent wedi nodi mai ei flaenoriaeth cyntaf bydd i sicrhau bod y Cyngor Tref a Gr?p Tycroes yn cytuno i glirio’r tir a’i drosglwyddo.