Heddiw fe wnes i a Lee Waters AC cwrdd â swyddogion o’r Cyngor Sir ag aelod dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir er mwyn egluro pam oedd trigolion wedi eu synnu i weld bod llinellau melyn wedi eu paentio ar y ffyrdd tuag at y Twyni (neu “maes parcio” y Pysgotwyr), ychydig y tu allan i Barc Gwledig Penbre. Bellach, mae trigolion yn poeni dros y posibilrwydd y bydd system parcio talu ac arddangos yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol.
Fe wnaethom ni nodi bod mynediad at y traeth a’r Gwarchodfeydd Natur yn bwysig i’r trigolion lleol ac nad oes unrhyw dagfeydd neu ddifrod i ymyl y ffyrdd wedi digwydd yn y gorffennol. Ar ben hynny, fe dynnom ni sylw at y ffaith bod defnyddwyr rheolaidd yr ardaloedd hyn yn helpu eu cynnal a’u cadw trwy godi sbwriel, hysbysu’r cyngor ynghylch unrhyw broblem, a.y.b.
Yna, gofynnom eu bod nhw’n ystyried hyn oll ac yn gweithredu yn ôl y pryderon hyn. Hefyd, fe dynnom sylw at y dicter sydd ymysg trigolion ynghylch y cynigion i godi ffioedd i barcio ym meysydd parcio eraill sydd wedi’u lleoli ger yr arfordir neu barciau gwledydd eraill ac yr effaith negyddol y bydd gweithredu unrhyw fath cynnig yn ei gael ar drigolion lleol.