Home > Uncategorized > Apêl mawr Cennin Pedr Marie Curie

Rwy’n falch o wisgo fy mhin cennin Pedr pob mis Mawrth. Mae’n angenrheidiol ein bod ni’n cefnogi’r gwaith gwych y mae Marie Curie yn ei wneud dros bobl sy’n byw ag afiechyd angheuol a’u teuluoedd.

Mae cannoedd yn marw pob dydd heb dderbyn y gofal y maen nhw’n ei haeddu. Mae’r gwasanaethau y mae Marie Curie yn eu cynnig yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau ac felly rwy’n annog pawb i roi arian at yr achos ac i wisgo’u piniau er mwyn atgoffa eraill i gyfrannu at yr achos pwysig hwn.”

Roedd yn wych cael lansio Apêl Mawr cennin Pedr Marie Curie 2019 yn Senedd San Steffan wrth ochr yr actor a llysgennad Marie Curie, Stephen Mangan.