Braf yw gweld bod gan gwmnïau lleol diddordeb mewn adnewyddu Hen Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli sydd ar hyd Stryd Marsh.
Bydd adnewyddu adeilad y sied yn gostus iawn a bydd angen sicrhau cyllid sylweddol. Ond, er mwyn cychwyn arni, mae’r ymddiriedolwyr wedi gwneud cais am grant i ddechrau adnewyddu hen floc y swyddfeydd.
Mae gan CCTAL profiad sylweddol yn ymgysylltu â’r gymuned er mwyn sicrhau bod prosiectau lleol pwysig yn llwyddo. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw er mwyn symud y prosiect yma yn ei flaen.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymwneud â’r prosiect cysylltu â Richard Roper, Ysgrifennydd Yr Ymddiriedolaeth trwy e-bost: richard876@btinternet.com