Braf oedd bod yng nghwmni disgyblion Ysgol Pum Heol dydd Gwener ddiwethaf er mwyn plannu coeden ger Canolfan Gymunedol Pum Heol.
Mae’r ymgyrch hon gan Sefydliad y Menywod a grwpiau lleol eraill i blannu rhagor o goed yn un wych. Bydd yn gwella ein hamgylchedd ac yn helpu arafu proses cynhesu byd eang. Gweithredu fel hyn sydd ei angen – dim siarad yn unig.
Trwy gydweithio â Chymdeithas Dreftadaeth Pum Heol a Chyngor Gwledig Llanelli, trefnodd y WI ymgyrch i blannu coed o amgylch y maes hamdden a’r bedw ger y Ganolfan Gymunedol er mwyn coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, plannwyd coeden dderw newydd yn lle’r hen goeden dderw a blannwyd i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.