Home > Uncategorized > Eich cyfle olaf i gael dweud eich dweud ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol

Bydd y cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol yn cau am 5pm ar yr 8 Chwefror. Dyma’ch cyfle olaf chi i gael dweud eich dweud ynghylch cynlluniau a fydd yn cael effaith ar benderfyniadau cynllunio yn eich ardal chi dros y degawd nesaf.

Trowch at wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin i weld y cynlluniau am bob un ardal sydd wedi’i dynodi (tai, mannau gwyrdd a.y.b):

https://www.carmarthenshire.gov.wales/…/draft-preferred-st…/

Braf oedd gweld cynifer wedi mynychu’r sesiynau galw heibio ym Mynea a Bryn heddiw er mwyn dweud eu dweud ynghylch y cynlluniau datblygu.