Home > Uncategorized > Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychuneb i weithwyr dur y DU

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychineb i ddiwydiant dur y DU a’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant. Dyna oedd neges Tata Steel a chwmnïau dur Prydain yng nghyfarfod Gr?p Dur Senedd San Steffan heddiw.

Mae gweithiau dur Trostre a’n ffatrïoedd cynnyrch modurol yn dibynnu ar eu gallu i fasnachu rhwng y DU ac Ewrop yn hawdd. Felly, mae’r gallu i’r DU masnachu â’r Undeb Ewropeaidd heb drafferth yn hanfodol er mwyn gwarchod swyddi yn y cwmnïau dur hyn a’u cadwynau cyflenwi.

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn arwain at gynnydd o 4% neu fwy yng nghostau cwmnïau dur – anfantais fawr wrth iddyn geisio cystadlu. Byddwn yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth i sicrhau na fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ac i sicrhau cynllun sy’n cynorthwyo’r sectorau dur a gweithgynhyrchu.