Home > Uncategorized > Rhaid cynnal adolygiad i brosiect Llynnoedd Lakes ar frys

Mae Pentref Lles Llynnoedd Delta yn brosiect cyffrous sydd â photensial i fod o fudd enfawr i Lanelli, ond mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod yn mynd yn ei flaen yn y dull iawn.

Ar ôl dadlau’r wythnosau diwethaf, a’r sawl ymchwiliad sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, mae’n glir bod angen cynnal adolygiad brys i’r prosiect cyfan. Oherwydd maint y datblygiad a’i effaith posib, rydw i wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cymryd cyfrifoldeb dros y cais am ganiatâd cynllunio.

Mae gwaharddiad dros dro Yr Athro Marc Clement o Brifysgol Abertawe a therfyniad cytundeb allweddol ag un o brif ddatblygwyr y prosiect yn ddigwyddiadau difrifol iawn. Mae hyn yn golygu bod angen eglurder ynghylch pwy fydd y partneriaid datblygu a gwybodaeth ynghylch eu gallu i gyflawni’r prosiect yn ei ffurf bresennol neu a fydd angen gwneud newidiadau.

Rwy’n diolch i’r Cyng. Rob James am y gwaith y mae ef wedi bod yn ei gyflawni er mwyn cael atebion gan Gyngor Sir Caerfyrddin a sicrhau bod y Cyngor yn atebol i’r cyhoedd. Byddaf yn parhau i weithio gydag ef, y Cyngor a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiect Llynnoedd Delta yn cael ei gyflawni’n iawn a bod trethdalwyr lleol yn cael eu diogelu.