Home > Uncategorized > Gobaith i gyn-ardal chwarae yng Nghydweli

Hoffwn ddiolch i drigolion Rhodfa’r Gwendraeth, Clos yr Onnen, Clos y Dderwen a Chlos y Celyn am ddweud eu dweud heddiw mewn cyfarfod a drefnwyd yn ôl fy nghais i a Maer Cydweli, Cyng. Phil Thompson, ynghylch y cyn-ardal ‘parc’ sydd y tu ôl i’w tai.

Mae cryn dipyn o amser wedi cael ei dreulio yn ceisio darganfod beth yn union digwyddodd i’r tir hwn. Fel bydd rhai trigolion yn cofio, fe greodd datblygwyr tai y gofod hwn a’i lenwi ag offer chwarae er mwyn bodloni amodau cynllunio. Er hynny, yn ddiweddar mae wedi dod i’r amlwg nad oedd y Cyngor Sir wedi cymryd meddiant dros y tir ac nad ydyn bellach yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb drosto.

Er, fel rwy’n gallu llawn deall, mae trigolion yn teimlo fel bod y Cyngor Sir wedi eu methu ac maent yn awyddus i weld pethau yn symud yn eu blaen. Felly, cytunodd y rheiny a fynychodd y cyfarfod mai’r cynllun gorau oedd gofyn i’r Cyngor Tref cymryd cyfrifoldeb dros y tir. Fe gynigodd Richard Williams o’r Tycroes Group ymchwilio i glirio’r tir, unwaith i’r Cyngor Dref cytuno cymryd y cyfrifoldeb dros y gwaith cynnal a chadw parhaol.

Cytunodd y gwirfoddolwyr i ffurfio pwyllgor gwaith er mwyn ystyried y dewisiadau posib megis gosod offer chwarae. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r gr?p, rhowch wybod i mi trwy e-bostio nia.griffith.mp@parliament.uk