Home > Uncategorized > Dweud eich dweud ynghylch datblygiadau lleol

Diolch enfawr i drigolion lleol sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y tir gwag eang ar draws Bryn a Bynea wedi’i nodi fel lle y mae’r Cyngor Sir am ei ddatblygu fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol Drafft (LDP). Rydym yn deall pam fod y tir prydferth hwn yn ddeniadol i ddatblygwyr, ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r problemau gall gor-ddatblygu eu hachosi. Mae hefyd rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwarchod ein llefydd gwyrdd a safon bywyd trigolion.

Mae’n rhaid i ni gyd sicrhau ein bod ni’n dweud ein dweud ynghylch y safleoedd sydd wedi eu clustnodi fel safleoedd datblygu. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn dylanwadu ar benderfyniadau cynllunio yn Sir Gaerfyrddin dros y degawd nesaf. Rwy’n annog pawb i fwrw golwg dros restr y safleoedd sydd yn eu hardaloedd nhw ac i sicrhau eu bod nhw’n dweud eu dweud wrth y Cyngor erbyn dyddiad cau’r cyfnod ymgynghori ar 8 Chwefror am 5pm. Gallwch ddweud eich dweud trwy glicio ar y ddolen gyswllt isod.

Mae cynghorwyr lleol a’r gr?p Stop Overdeveloping Bryn/Bynea wedi trefnu sesiynau galw-heibio i drigolion er mwyn iddyn nhw gael bwrw golwg dros gynigion y cynllun drafft ac yna cael dweud eu dweud. Cynhelir sesiwn yn Neuadd y Bryn o 6.30-9pm ar ddydd Gwener 1 Chwefror ac un arall yn Neuadd Trallwm o 6.30-11am ar ddydd Sadwrn 2 Chwefror.

https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-democracy/consultation-performance/current-consultations/draft-preferred-strategy-revised-local-development-plan-ldp/?fbclid=IwAR0pn2phpKxGhon5cYw10641wuoR8n45btEfobVqyn4i7ovlLx0mzlZL-NE