Home > Uncategorized > Diwrnod Coffáu’r Holocost

Eleni, ynghyd ag arwyddo Llyfr Ymrwymo Ymddiriedolaeth Addysg ar y Holocost yn San Steffan yn mynegi fy ymrwymiad i frwydro yn erbyn gwrthsemitiaeth, cefais y fraint o gael mynychu Gwasanaeth Coffáu’r Holocost y Swyddfa Dramor. Yno, fe glywom araith emosiynol gan Mala Tribich MBE, a oroesodd yr Holocost, yn nodi ei phrofiad hi o’r digwyddiadau erchyll y cyfnod hwnnw.

Fel y nodais yn y Llyfr Ymrwymo, ni ddylem fyth gadael i unrhyw beth fel hyn digwydd eto ac mae’n rhaid i ni bob tro cymryd safiad yn erbyn rhagfarn a gwrthsemitiaeth, beth bynnag ei ffurf. Heddiw, rydym yn cofio’r rheiny bu farw a’r rheiny a gafodd eu bywydau wedi’u dinistrio gan yr Holocost.