Fel rhan o’m swydd fel Gweinidog Amddiffyn Cysgodol y Blaid Lafur, ymwelais â ffatri GE yn Rugby lle cynhyrchir injans at ddefnydd ein Llynges Frenhinol. Mae’n warthus bod y Torïaid yn gwneud dim byd er mwyn atal y cyfleuster allweddol hwn rhag cau.
Mae ein hymgeisydd llafur ni, Debbie Bannigan, a’n cydweithwyr o undebau llafur yn ymgyrchu’n ddiflino er mwyn sicrhau bod y swyddi crefftus hyn yn cael eu gwarchod ac ein bod ni’n cadw’r cyfleuster gweithgynhyrchu arbenigol hwn ar gyfer y dyfodol.