Home > Uncategorized > Diolch i weithwyr post yn swyddfa darpariaeth y Post Brenhinol

Ymwelais â Swyddfa Darpariaeth y Post Brenhinol y bore yma i gwrdd â gweithwyr caled y gwasanaeth post yn Llanelli ac i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion i gludo cardiau ac anrhegion mewn da bryd wrth i’r Nadolig agosáu. Mae hwn yn dasg enfawr, ac mae gweithwyr post yn haeddu ein cefnogaeth yn ystod yr adeg brysur hon a thrwy gydol y flwyddyn.