Home > Uncategorized > Darluniadau Cerdiau Nadolig plant lleol yn cael eu harddangos yn Nh? Llanelly

Mae nifer o’r darluniadau gwych derbyniais i a Lee Waters fel rhan o’n cystadleuaeth flynyddol cerdyn Nadolig AS/AC bellach yn cael eu harddangos yn Nh? Llanelly.

Roedd yn wych cael gweld yr arddangosfa’r wythnos ddiwethaf ac rwy’n eich argymell chi i alw heibio rhwng nawr a’r Nadolig er mwyn dathlu creadigrwydd a thalentau cannoedd o blant ein hysgolion lleol.

I fod yn glir, oherwydd i ni dderbyn cymaint o geisiadau, ond y cardiau a gafodd clod neu glod arbennig gan y beirniaid sy’n cael eu harddangos neu sydd wedi eu cynnwys yn y ffolderi ar y bwrdd.