Home > Uncategorized > Ymladd dros degwch pensiwn gweithwyr HSBC

Mynychais gyfarfod y Midland Clawback Campaign yng nghwmni’r undeb Unite ac ASau eraill yr wythnos diwethaf er mwyn trafod y camau nesaf yn y brwydr dros degwch i weithwyr HSBC/Midland Bank sydd wedi profi torriad anheg gwerth £2,500 y flwyddyn i’w pensiynau.

Mae nifer o’m etholwyr wedi cael eu heffeithio gan yr hen arfer o adfachu arian pensiwn, arfer sy’n effeithio ar y rheiny sy’n cael eu talu’r lleiaf mwyaf. Oherwydd diffyg cyathrebiad gan y banc, dydy’r rhan fwyaf o staff ddim yn ymwybodol eu bod nhw’n cael eu heffeithio gan hwn hyd nes iddyn ymddeol ac yna darganfod y byddan nhw’n colli cyfran mawr o’u hincwm pensiwn. Mae hyn yn anerbynniol.

Byddaf yn parhau i weithio gydag ASau eraill er mwyn dwyn pwysau ar arweinyddiaeth uwch HSBC i gynnig atebion uniongyrchol i ni a’r etholwyr rydym ni’n eu cynrychioli. Mae’n rhaid i HSBC gwneud y peth iawn trwy stopio’r arfer erchyll o adfachu gan hefyd cynnig iawndal i’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio.