Home > Uncategorized > Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn erbyn trais yn y cartref

Roedd yn braf cwrdd ag aelodau ymgyrch y Rhuban Gwyn y bore hwn ar gyfer lansiad seneddol eu ffilm ymgyrch “If love hurts, it’s not love”.

Pob wythnos, mae dwy fenyw yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gynbartner. Felly, mae’r gwaith y mae’r ymgyrch yn ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref yn erbyn menywod o amgylch Diwrnod y Rhuban Gwyn yn gwbl hanfodol.

Dyma pam, felly, rydw i’n gwisgo fy rhuban gwyn yr wythnos hon – addewid personol i beidio â byth treisio unrhyw un, esgusodi trais gan ddyn yn erbyn menyw neu gadw’n dawel am drais gan ddyn yn erbyn menyw.