Home > Uncategorized > Ymateb i’r cynllun i gau ffatri Schaeffler

Mae cynlluniau Schaffler i gau ei ffatri yn Llanelli, ffatri sydd wedi bod yn rhan o’n cymuned am dros 60 mlynedd, yn fy mhryderu’n fawr iawn.

Byddai cau’r ffatri yn golygu colli dros 200 o swyddi yn Llanelli, y rhan fwyaf ohonyn yn swyddi crefftus, ac yn golygu colled enfawr i’r gymuned a’r diwydiant cynhyrchu lleol.

Byddaf i a’r AC Lee Waters yn gwneud pob dim yn ein gallu i berswadio Schaeffler i gadw’r ffatri ar agor. Rydw i eisoes wedi ysgrifennu at Greg Clark, Ysgrifennydd Busnes llywodraeth y DU, yn ei annog i wneud pob dim yn ei allu hefyd.

https://www.walesonline.co.uk/business/business-news/live-updates-250-jobs-axed-15377458?fbclid=IwAR2S78mCuoYO3XdHX_vg_Vxo2gLS7InSyVMcP9o71XkmX7YbOPOH