Home > Uncategorized > Syniadau ynghylch dyfodol Gorsaf Drenau Llanelli

Felly, sut yr hoffech chi drawsnewid hen flwch signalau gorllewin Llanelli? Llety gwyliau tybed? (Ydy – mae’r syniad hwn wedi gweithio yn nhrefi eraill). Neu arddangosfa treftadaeth?

Cafodd y syniadau uchod, a syniadau eraill, eu trafod yn ystod cyfarfod ar y cyd rhwng Cyfeillion Gorsaf Llanelli, Ymddiriedolaeth Sied Storio Rheilffordd Llanelli a Heart of Wales Development Company Ltd. Rydym am drafod a chasglu syniadau i Lanelli allu cychwyn y proses o gynllunio a cheisio arian yn syth bin wrth i’r timoedd newydd a fydd yn cymryd rheolaeth o reilffyrdd Cymru dod i rym ar ddydd Sul.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dyrannu’r masnachfraint i Keolis Amey gyda’r bwriad i fuddsoddi’n sylweddol ym mhrosiectau ledled Cymru – cynllun buddsoddi rydym am gael budd ohono. Rydym yn gobeithio cynnal cyfarfod â Keolis Amey yn hwyr ym mis Tachwedd neu’n gynnar ym mis Rhagfyr.