Home > Uncategorized > Fy mharn ar ganolfan hamdden newydd Llanelli yn Llynnoedd Delta

Mae’r cynllun i adeiladu canolfan hamdden o’r radd flaenaf yn Llynnoedd Delta yn newyddion da. Ond, mae’n rhaid i’r Cyngor cadw at ei addewid i gadw’r prisiau a godir yna yn unfath â chanolfannau hamdden eraill y sir, ac i sicrhau bod yna cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas yn cysylltu’r ganolfan â’r dref.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau nad yw hen safle Park Crescent yn dod yn rhan o’r arfer o wasanaethau’n gadael canol tref Lanelli gyda dim byd yn dod yn eu lle. Dylai’r safle hwn cael ei ddefnyddio i ddenu pobl i ganol y dref. Felly, gall syniadau cynnwys tai sydd wedi’u cynllunio i fod yn ddeniadol, gofod swyddfa fforddiadwy neu gyfrwng cyfleuster hamdden arall.

Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod trigolion yn cael dweud eu dweud ynghylch y cynlluniau hyn.