Home > Uncategorized > Dathlu gwaith elusennol y gymdeithas bingo

Roedd yn wych gweld Nigel Griffiths o Argos Bingo Llanelli mewn digwyddiad yn Senedd San Steffan yr wythnos ddiwethaf. Mae’r Gymdeithas Bingo yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi achosion megis yr elusen blant, Variety.

Oherwydd cefnogaeth chwaraewyr bingo, mae Variety wedi gallu darparu rhagor o gadeiriau olwyn a chyfarpar hygyrchredd i blant anabl ac wedi gallu noddi teithiau diwrnod i blant ag anghenion arbennig. Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd yr arfer hwn o gydweithredu yn parhau.